Carwyn Jones
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo’r Prif Weinidog Carwyn Jones o ddiffyg uchelgais dros ddatganoli i Gymru heddiw.

Yn ôl Plaid Cymru, mae angen Prif Weinidog ar Gymru fydd yn cynnig syniadau i’r dyfodol, nid yn dilyn newidiadau gan bobol eraill.

Daw’r sylwadau wedi i Carwyn Jones ddweud y byddai angen ailedrych yn fanwl iawn ar berthynas Cymru â’r Deyrnas Unedig petai’r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.

Wrth annerch cynulleidfa yn Adran Wleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth neithiwr, dywedodd y Prif Weinidog byddai angen ystyried trosglwyddo “grymoedd deddfu ehangach i’r Cynulliad” petai’r Albanwyr yn penderfynu “newid rheolau’r gêm.”

Yn ôl Carwyn Jones, gallai’r grymoedd deddfu ehangach yma gynnwys creu awdurdod cyfreithiol newydd yn arbennig i Gymru, a system mwy teg o ddyrannu cyllid.

Ond yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, mae angen arweinydd ar Gymru fydd yn arwain y ffordd, nid yn dilyn y ffasiwn.

“Mae angen Prif Weinidog uchelgeisiol ar ein gwlad, ond beth sydd ganddon ni yw dyn sy’n cyfaddef y bydd yn ymateb dim ond os yw pethau’n digwydd yn rhywle arall yn gyntaf.”

Cyhuddodd Jonathan Edwards y Llywodraeth o laesu dwylo dros ddatganoli, gan ddweud nad oedden nhw’n ateb galwadau “rhan helaeth bobol Cymru” fyddai’n dymuno cael rheolaeth dros eu materion eu hunain.

“Mae’r Alban yn symud yn ei blaen yn hyderus,” meddai Jonathan Edwards, “ond mae Cymru yn symud ar lwybr araf iawn gyda Llafur wrth y llyw.”