Llun o glawr yr adroddiad
Mae cynllun arloesol i roi cyngor a chefnogaeth i ddisgyblion ysgol uwchradd yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth mawr i lawer ohonyn nhw.

Yn awr, mae adroddiad annibynnol yn galw ar i’r Llywodraeth roi sicrwydd ariannol tymor hir i’r cynllun cwnsela ac ystyried ei ymestyn i ysgolion cynradd.

Ond mae’r arolwg, gan uned Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, yn awgrymu bod prinder cwnselwyr proffesiynol sy’n gallu siarad Cymraeg.

Ymchwiliad Clywch

Fe gafodd y gwasanaeth cwnsela ei sefydlu o ganlyniad i Ymchwiliad Clywch i gam-drin rhywiol yn Ysgol Gyfun Rhydfelen.

Erbyn hyn, mae gwasanaeth cwnsela ar gael ym mhob ysgol uwchradd ac, yn ôl yr adroddiad, mae’r bobol ifanc, yr ysgolion a’r cwnselwyr yn ei ganmol.

Yn ôl un ffigwr, mae 85% o bobol ifanc sy’n derbyn cwnsela yn teimlo’n fwy awyddus  i fynd i’r ysgol ac maen nhw’n diodde’ llawer llai o bwysau seicolegol na phobol ifanc sydd heb dderbyn cyngor.

Yr argymhellion

Mae’r uned ymchwil yn gwneud nifer o argymhellion:

  • Bod angen sicrhau arian parhaol i gynnal y gwasanaeth – dim ond tan 2014 y mae sicrwydd o hynny.
  • Bod angen ystyried ymestyn y cynllun i ysgolion cynradd, lle mae cynlluniau peilot wedi’u cynnal.
  • Bod angen sicrhau llefydd addas i gynnig y gwasanaeth a sicrhau fod pob disgybl yn gallu ei gyrraedd yn hawdd.

Y prif resymau

Yn ôl yr arolwg, roedd mwy nag 11,000 o sesiynau cwnsela wedi bod mewn dwy flynedd.

Dyma’r prif resymau tros ofyn am gyngor:

Materion teulu – 38.2%

Rheoli tymer – 17.6%

Ymddygiad – 12.5%

Bwlio – 10.3%

Galar – 10.2%