Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon wedi cadarnhau wrth golwg360 y bydd Huw Griffiths yn parhau yn rheolwr y tîm y cyntaf, yn dilyn achos llys yr wythnos hon.

Bu Huw Griffiths a’i wraig Siân Griffiths mewn ffrwgwd yn nhafarn y Llew Coch ger Wrecsam ar Orffennaf 13 2019.

Yn ystod y ffrwgwd, bu i Siân Griffiths ymosod ar ddynes gyda gwydr cyn mynd yn ei blaen i ymosod ar heddwas.

Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug yr wythnos hon fod Huw Griffiths wedi cyfaddef fod ei weithredoedd wedi “arwain at drais corfforol”.

Mae hefyd wedi cyfaddef iddo daflu dwrn at Keaton Martin, ond ddim ond ar ôl i hwnnw “ddefnyddio ciw pŵl yn ei erbyn”.

Ar derfyn yr achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug, fe gafodd Huw Griffiths ei ddedfrydu i chwe mis o garchar, wedi ei ohirio am flwyddyn, ac mae yn rhaid iddo wneud 100 awr o waith di-dâl.

Fe gafodd ei wraig ddwy flynedd o garchar, wedi ei ohirio am 21 mis, ac mae gofyn iddi wneud 200 awr o waith di-dâl.

Parhau gyda Chaernarfon

Mae Cadeirydd Clwb Pêl-droed Caernarfon, Paul Evans, wedi cadarnhau wrth golwg360 y bydd Huw Griffiths yn cadw ei swydd yn rheolwr y tîm cyntaf.

“Yr unig beth sydd gan y clwb i’w ddweud yw bod Huw Griffiths yn aros ymlaen fel rheolwr y clwb,” meddai Paul Evans.