Mae rhannau o’r Rhondda wedi cael eu taro’n wael gan lifogydd am yr ail waith eleni, yn sgil glaw trwm ddydd Mercher (Mehefin 17).

Yn ôl adroddiadau, mae Pentre, Maerdy a Threherbert ymhlith y trefi a gafodd eu heffeithio; ac mae nifer wedi gorfod ffoi o’u tai oherwydd y difrod.

Cafodd Cwm Rhondda ei tharo’n wael yn gynharach eleni yn ystod Storm Dennis.

Roedd yna rybudd melyn am dywydd garw mewn grym dros rannau helaeth o Gymru ddydd Mercher, ac mae disgwyl rhagor o law a thyrfau heddiw (Mehefin 18).

Mae’r Swyddfa Dywydd yn darogan y bydd mellt a tharanau yn ne ddwyrain Cymru, a glaw trwm dros y rhan fwyaf o’r wlad. Mae dau rybudd melyn arall bellach mewn grym.

Ymateb gwleidyddion

Mae gwleidyddion sy’n cynrychioli’r Rhondda wedi ymateb i’r llifogydd ar gyfryngau cymdeithasol, gan alw am weithredu ar frys.

“Sut mae hyn yn digwydd pedwar mis ers y llifogydd diwetha’?” meddai Leanne Wood, Aelod o’r Senedd y Rhondda.

“Mae angen mynd ati ar frys i gynnal ymchwiliad i hyn. Nid yw’n dderbyniol bod pobol yn gorfod delio â hyn dro ar ôl tro.”

Mae Chris Bryant, Aelod Seneddol yr ardal, wedi dweud bod y gymuned yn “wydn” ond “dw i ddim yn siŵr os allwn ni ymdopi â llawer rhagor heb help y llywodraeth.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.