Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio tri pherson ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol a pheryglu bywyd yn dilyn tân yn Stryd y Castell, Aberteifi.
Mae’r dyn 42 oed, llanc 17 oed a merch 16 mlwydd oed, i gyd yn dod o ardal Aberteifi.
Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 3:45yb bore dydd Mawrth (Mehefin 16), ac roedd y frigâd dân eisoes yno.
Bu’n rhaid i drigolion sawl eiddo gael eu symud o’u cartrefi fel rhagofal a chafodd y stryd ei chau. Ni chafodd unrhyw un eu hanafu.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Yelland ei fod yn “ddiolchgar am amynedd y gymuned leol tra roedd Stryd y Castell wedi cau.”
Maen nhw’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.