Mae Virginia Crosbie, aelod seneddol Ceidwadol Ynys Môn, yn cael ei hannog i warchod dioddefwyr trais yn y cartref wrth i’r sefyllfa waethygu yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws.

Mae pôl newydd yn dangos bod 76% o bobol yng Nghymru yn credu y dylai gwleidyddion wneud mwy i warchod pobol mewn perygl.

Ar hyn o bryd, does dim modd i fenywod sydd heb statws mewnfudo diogel gael mynediad i lochesi ar gyfer menywod bregus a chefnogaeth allweddol arall.

Mae Virginia Crosbie yn aelod o bwyllgor trais yn y cartref yn San Steffan, ac maen nhw’n craffu ar fesur seneddol y mis yma.

Mae ymgyrchwyr yn annog y pwyllgor i gynnig gwarchodaeth gyfartal i ddioddefwyr trais yn y cartref, sy’n aml yn methu cael mynediad i wasanaethau.

Pôl

Yn ôl pôl gan Opinium ar ran Amnest Ryngwladol, mae 76% o bobol yng Nghymru yn credu y dylai’r llywodraeth wneud mwy i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Mae 74% yn cytuno bod angen gwneud mwy i warchod y bobol fwyaf bregus, waeth bynnag am eu statws mewnfudo.

Mae 62% yn credu y dylai’r llywodraeth gynnig mwy o arian i warchod gwasanaethau arbenigol, ac 86% yn credu y dylid trin pob dioddefwr yn gyfartal.

Cafodd 2,000 o oedolion eu holi rhwng Ebrill 24-27.