Mae Plaid Cymru wedi taro nôl wedi i Neil McEvoy lambastio’r blaid am fod “yn hwyr i’r drafodaeth” ar dai haf, wedi iddo feirniadu’r blaid.
Ddoe (dydd Llun, Mehefin 15), beirniadodd Neil McEvoy record Plaid Cymru mewn grym ar Gyngor Gwynedd, gan honni nad oedd y blaid wedi gweithredu ar y mater.
“Mae Plaid Cymru wedi cael 40 mlynedd i weithredu ar fater tai haf, ond dyw’r blaid heb wneud dim,” meddai.
“Mae’r peth yn anghredadwy.”
Aeth yn ei flaen i feirniadu’r ffaith fod Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn “fodlon creu cytundebau â chenedlaetholwyr Prydeinig ym mhlaid y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd”.
Cefnogaeth i Blaid Cymru “ar i fyny”
Ond wrth ymateb, dywed Plaid Cymru fod Neil McEvoy yn “hwyr i’r drafodaeth” ynglŷn â thai haf a bod cefnogaeth i’r blaid “ar i fyny.”
“Ymddengys bod Mr McEvoy yn hwyr i’r drafodaeth am ail gartrefi gan fod Plaid Cymru wedi pwyso ers amser maith ar Lywodraeth Cymru i newid y ddeddf sydd yn ymwneud â thaliadau treth cyngor ail gartrefi,” meddai llefarydd ar ran y Blaid.
“Mae’r arolygon barn yn dangos bod cefnogaeth Plaid Cymru ar i fyny. Dyna pam fod Cynghorwyr fel Paul Penlington ym Mhrestatyn yn gadael y Blaid Lafur am Blaid Cymru, esiampl arall o apêl gynyddol y Blaid ym mhob cwr o’r wlad.
“Mi fydd hi’n demtasiwn i rai roi uchelgais personol yn gyntaf, ond mae Plaid Cymru bob tro yn gweithio i wireddu’r uchelgais o greu Cymru annibynnol a ffynnianus i bawb sy’n byw ynddi.”
Mae modd darllen y stori wreiddiol yma.