Mae’r heddlu wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn Wrecsam ar ôl i gorff dyn 60 oed gael ei ddarganfod yn y dref bythefnos yn ôl.

Meddai’r Prif Arolygydd Mark Williams:

“Cafodd yr heddlu eu galw i 39 Pont Wen, Wrecsam, yn fuan cyn 7 o’r gloch nos Lun 1 Mehefin. Ar ôl mynd i mewn i’r tŷ, darganfuwyd y preswylydd, Terence (Terry) Edwards, wedi marw, a dangosodd archwiliad post mortem iddo farw o anaf i’r pen.

“O ganlyniad, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth gyda thîm o blismyn wedi ei ffurfio i ymchwilio i farwolaeth Terry.”

“Dw i’n apelio i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth ynghylch pwy a fu yn 39 Pont Wen, Wrecsam, rhwng 9 nos Wener 29 Mai a 7 nos Lun 1 Mehefin gysylltu â ni.”

Ychwanegodd y bydd mwy o blismyn ar waith yn yr ardal, a fydd yn falch o siarad gydag unrhyw sydd a allai fod â gwybodaeth, a bod modd cysylltu â nhw hefyd trwy ffonio 101 neu fynd ar webchat gan nodi cyfeirnod Y078626.