Mae Aelod o’r Senedd Plaid Cymru wedi condemnio’r weithred hiliol o lunio graffiti ar ddrws garej teulu croenddu ym Mhenygroes dros y penwythnos, gan ei disgrifio fel gweithred “atgas o gasineb hiliol”.

“Mae’n anodd credu sut a pham y byddai person yn mynd ati yn holl bwrpasol i gario allan y weithred hiliol hon” meddai Sian Gwenllian Aelod o’r Senedd dros Arfon.

“Pam yn y byd y byddai un bod dynol yn credu fod ganddo ’r hawl i ddiraddio person arall dim ond am mai du yw lliw eu croen?

“Fedra i ddim ateb y cwestiwn hwn.

“Fedra i ddim dirnad pam byddai rhywun yn gweithredu fel hyn. Ond rydw i’n ei gondemnio o waelod fy nghalon fel mae eraill wedi wneud.”

Nid problem ‘rhywun arall’ yw hon

Yn ol Sian Gwenllian mae hyn yn tanlinellu fod hiliaeth ym mhob man.

“Mae yn ein cymunedau. Mae ymhlith ein pobl” meddai.

“Nid mater wedi ei gyfyngu i Minneapolis a’r heddlu yn yr Unol Daleithiau. Nid yw wedi ei gyfyngu i’r carfannau de-eithafol fu’n ymgasglu yn Parliament Square Llundain penwythnos diwethaf.

“Yn anffodus, mae o yn ein plith yma yn Arfon ac mae’n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i roi stop arno yn syth.

“Mae’n rhaid i ni gyd fod yn rhan o’r ymdrech enfawr sydd ei  hangen fel nad oes raid i’r un teulu arall wynebu’r hyn mae’r teulu Ogunbanwo wedi ei ddioddef ym Mhenygroes.”