Mae Cymru ymhlith hoff lefydd pobol i symud i fyw, yn ôl arolwg newydd.

Mae’r arolwg gan Trussle, y cwmni morgeisi, yn awgrymu bod mwy o bobol yn ystyried symud o’r ddinas i gefn gwlad yn barhaol, a hynny’n bennaf yn sgil y gallu i weithio o adref.

Yn ôl yr arolwg, mae mwy a mwy o bobol yn dewis symud o’r dinasoedd mwyaf i fyw yn y wlad neu ar lan y môr.

Mae’r pandemig coronafeirws diweddar wedi amlygu’r ffaith fod gweithio o adref yn bosib i nifer helaeth o weithwyr, ac felly does dim angen teithio i swyddfa yn ddyddiol.

Mae nifer gynyddol felly yn ymchwilio i’r posibilrwydd o symud i’r wlad neu arfordiroedd gwledydd Prydain, ac yn ddigon parod i gymudo dwy awr bob ffordd, rhyw ddwy waith yr wythnos.

Arolwg

Cafodd yr arolwg ei gynnal ym mis Mai a chafodd 2,000 o bobol eu holi.

Y lleoliad mwyaf poblogaidd i symud iddo yn ôl yr arolwg yw Cernyw, gyda Dyfnaint yn ail a Swydd Efrog yn drydydd.

Cymru yw’r nawfed lle mwyaf poblogaidd allan o’r 10.

Dywedodd 28% fod yn well ganddyn nhw lefydd yng nghefn gwlad, 27% ar lan y môr ac 16% yn agosach at goetiroedd.

Lle, lle a mwy o le

Mae’n debyg bod y coronafeirws wedi datblygu awydd mewn pobol am fwy o le ac i fod ymhlith llai o bobl.

Yn gyffredinol, dywedodd 65% o oedolion gwledydd Prydain y byddai’n well ganddyn nhw fyw mewn lleoliad derbyniol gyda mwy o le yn hytrach na lleoliad gwych gyda llai o le.

Dywedodd 51% y bydden nhw’n  symud i leoliad llai ffafriol pe bai ganddo ardd fawr.

Dywedodd 34% y byddai ystafell sbâr y gellid ei throi’n swyddfa gartref yn eu denu at eiddo mewn lleoliad llai dymunol.