Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi dweud bod undebau addysg wedi perswadio Llywodraeth Cymru i ailagor ysgolion yn gynt nag yr oedd ef wedi’i ddymuno.

Dywedodd Frank Atherton mai dychwelyd ym mis Awst gan roi ychydig mwy o amser i’r wlad reoli’r coronafeirws oedd ei ddewis ef.

Ddydd Iau (4 Mehefin) yng nghyfarfod dyddiol Llywodraeth Cymru i’r wasg, pan ofynnwyd iddo a allai’r cynllun i ailagor ysgolion arwain at ymchwydd newydd yn nifer yr achosion o Covid-19, datgelodd Dr Atherton mai oedi am fis ychwanegol yr oedd e’n ei ffafrio.

Diwedd yr haf

Dywedodd: “Rwy’n credu ein bod wedi bod yn glir iawn drwy gydol yr wythnosau diwethaf y bydd unrhyw beth sy’n arwain at fwy o gymysgu cymdeithasol yn arwain, o reidrwydd, at rywfaint o gynnydd yn nhrosglwyddiad y firws.

“Yr uchelgais yma yw gwneud yn siŵr nad yw’r firws yn dod yn ôl mewn ffordd lle mae’r ‘rhif R’ yn mynd uwchben un, a’r firws yn dechrau tyfu [eto].

“Mae amseru agor ysgolion yn un mater. Pan oeddwn yn trafod hyn gyda’r Gweinidog Addysg, y dewis yr oeddwn i’n ei ffafrio oedd ailagor yr ysgolion efallai tua diwedd yr haf ym mis Awst, er mwyn rhoi ychydig mwy o amser inni.

“Rwy’n deall nad oedd hynny’n atyniadol i’r undebau, ac felly mae gennym ni’r opsiwn ail-orau sef ein bod ni’n mynd i ailagor yr ysgolion tua diwedd mis Mehefin am gyfnod byr gyda threfniadau gwahanol iawn fel y gellir gwneud hynny’n ddiogel.”

Roedd sylwadau’r Prif Swyddog Meddygol yn fêl ar fysedd cyn-Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, a drydarodd am y mater yn ystod y prynhawn gan ddweud ei fod yn “sefyllfa hynod”.

Fodd bynnag, dywedodd Dr Atherton ei fod yn credu y gellir ailagor ysgolion yn ddiogel, ond y byddai angen “monitro a thracio” yr effaith y mae’n ei chael ar reoli’r pandemig.

Hefyd, ddoe (dydd Mercher 4 Mehefin) bu i sawl undeb addysg feirniadu’r cynllun i ailagor pob ysgol ar 29 Mehefin, gyda Ysgrifennydd Cymru’r NEU, David Evans, yn galw’r cynllun yn “ormod, yn rhy fuan”.

Perthynas waith

Wrth ymateb i gwestiynau yn ddiweddarach yn y sesiwn friffio am y berthynas waith rhwng cynghorwyr arbenigol a Llywodraeth Cymru, dywedodd Dr Atherton fod Gweinidogion “bob amser yn gwrando ar fy nghyngor”.

Ychwanegodd: “Cyngor yw fy nghyngor, mae gan wleidyddion ystyriaethau eraill y mae angen iddynt eu hystyried.

“Fedra i ddim cofio unrhyw anghytundeb sylweddol. Rwy’n […] darparu cyngor ac mae Gweinidogion yn gwrando arno, ac rwy’n credu eu bod yn gwerthfawrogi’r cyngor rwy’n ei roi iddynt, [ac hefyd] ein Prif Swyddog Gwyddoniaeth dros Iechyd, Rob Orford, a’n Prif Gynghorydd Economaidd… oherwydd mae angen i’r holl ffactorau hyn gyfrannu. “