Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n llacio nac yn newid rheoliadau ynghylch gwasanaethau a chyfleusterau y mae’n eu darparu.

Fodd bynnag, mae cynlluniau ar y gweill i agor y safleoedd gwastraff cartref.

Bydd y Cyngor yn cynnal adolygiad nesaf ar ôl cyhoeddiad tair wythnosol Llywodraeth Cymru ynglŷn â sefyllfa’r coronafeirws, ar Fehefin 19.

Mae Swyddfeydd Harbyrau’r Cyngor yn Aberystwyth, Aberaeron a Cheinewydd ar gau ers  Mawrth 23 a does dim bwriad gan y Cyngor i’w hailagor ar hyn o bryd.

“Lleihau risgiau”

Yn ôl y Cyngor, mae’r cyhoeddiad wedi ei wneud wrth ystyried yr isod:

  • y cyfyngiadau a’r canllawiau sy’n parhau mewn grym
    • yr ymdrechion i leihau’r risgiau wrth wynebu’r posibilrwydd y bydd nifer sylweddol o bobl yn ceisio mynediad at y cyfleusterau hyn ac yn ceisio’u defnyddio
    • y pwysau diangen posibl y gallai gweithgareddau o’r fath eu rhoi ar y gwasanaethau brys.

Dywed y Cyngor eu bod wedi cymryd camau cadarnhaol er mwyn lleihau lledaeniad posibl y feirws yng Ngheredigion ers dechrau’r pandemig.

“Hoffem ddiolch i’r preswylwyr lleol am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth barhaus yn ystod y cyfnod hwn, wrth i ni geisio cadw a chynnal yr ymagwedd lwyddiannus hon yn ogystal â’n sefyllfa o ran y gyfradd heintio ar lefel leol,” meddai datganiad gan y Cyngor.