Mae disgwyl cyhoeddiad heddiw (dydd Mercher, Mehefin 3) ynghylch y posibilrwydd o ailagor ysgolion Cymru cyn gwyliau’r haf.

Bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, yn gwneud cyhoeddiad amser cinio, ar ôl i nifer o opsiynau fod dan ystyriaeth.

Ar ôl gwrthod y posibilrwydd o symud dechrau tymor yr hydref i fis Awst, y dyfalu yw y bydd hi’n dewis rhwng aros tan fis Medi cyn ailagor ysgolion, neu eu hagor ar Fehefin 22 neu 29.

Dim ond plant gweithwyr allweddol neu bobol fregus fu yn yr ysgol am gyfnodau yn ystod ymlediad y coronafeirws.

Mesurau yn Lloegr

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd Llywodraeth Cymru’n dilyn esiampl Lloegr, lle aeth plant yn ôl i’r ysgol ddydd Llun (Mehefin 1).

Ond mae’n bosib y byddan nhw’n awyddus i ddysgu gwersi o’r fan honno hefyd, gyda’r niferoedd o blant sydd wedi dychwelyd i’r ysgol yn amrywio o un lle i’r llall, ac mae rhai ysgolion yn dal ynghau.

Mae lle i gredu y gallai Llywodraeth Cymru ddewis dychwelyd rhai dosbarthiadau i’r ysgol cyn eraill – dosbarthiadau derbyn, a blynyddoedd 1 a 6 sydd yn ôl yn yr ysgol yn Lloegr.

Ond mae cyfnod y coronafeirws hyd yn hyn wedi dangos bod Llywodraeth Cymru’n fwy na pharod i ddilyn eu trywydd eu hunain hefyd.