Mae Vaughan Gething wedi amddiffyn y protestiadau mawr yn yr Unol Daleithiau yn dilyn marwolaeth dyn croenddu dan law’r heddlu, ond mae’n galw ar bobol yng Nghymru i beidio ag ymgynnull i brotestio.

Yn dilyn marwolaeth George Floyd, a gafodd ei sathru gan blismon ym Minneapolis, mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru’n dweud mai colli bywydau pobol groenddu yw’r “niwed mwyaf” yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd.

Mae’n cyhuddo’r wlad, a gwledydd eraill, o “fynd am yn ôl” ar hawliau pobol groenddu gan ddweud nad oes “ots am eu bywydau”.

Vaughan Gething oedd y gweinidog croenddu cyntaf yng ngwledydd datganoledig Prydain pan gafodd ei benodi i Lywodraeth Cymru yn 2013.

Er gwaethaf cyfyngiadau’r coronafeirws, daeth cannoedd o bobol ynghyd ger castell Caerdydd ddydd Sul (Mai 31) i gefnogi’r mudiad Black Lives Matter.

Protestiadau

Mewn fideo, mae Vaughan Gething yn annog pobol yng Nghymru i beidio ag ymgynnull i brotestio.

Ac wrth ateb cwestiynau yn ystod ei gynhadledd ddyddiol, mae’n dweud bod y mater yn un “personol” bwysig iddo fe.

“Mae hyn yn eithaf personol oherwydd dw i mewn sefyllfa lle dw i’n gweld beth sy’n digwydd,” meddai.

“Ac er gwaetha’r ffaith fod gyda fi swydd brysur i’w gwneud yn ystod y pandemig unwaith-mewn-canrif hwn, allwch chi ddim osgoi nac anwybyddu’r delweddau rydyn ni wedi’u gweld.

“Ac nid dim ond mater o’r delweddau rydyn ni wedi’u gweld nawr yw e, dros yr wythnosau diwethaf rydyn ni wedi gweld pobol groenddu eraill yn cael eu lladd yn yr Unol Daleithiau.

“Dw i’n cofio tyfu i fyny a gweld Rodney King, a’r ffordd roedd hynny wedi denu terfysgoedd ddigwyddodd hefyd.

“Ac nid dim ond America sydd fel pe baen nhw’n mynd am yn ôl i’w gorffennol anodd a chywilyddus ar gydberthynas hil.

“Mae’n cael effaith arnon ni i gyd, ac mae’n bwysig yma hefyd.

“Mae gyda ni wahaniaethau yn y Deyrnas Unedig hefyd; efallai nad ydyn nhw mor amlwg ag yr ydyn nhw yn yr Unol Daleithiau, ond mae hyn yn bwysig, nid yn unig oherwydd lle dw i’n sefyll o ran gwleidyddiaeth, ond mae’n bwysig i fi oherwydd pwy ydw i.”