Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod saith yn rhagor o bobol wedi marw yn sgil y coronafeirws yng Nghymru, yn ôl eu ffigurau dyddiol heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 2).

Mae’n golygu bod 1,354 o bobol wedi marw yn y wlad ers dechrau ymlediad y feirws.

Cafodd 67 o achosion newydd eu cofnodi, gan fynd â’r cyfanswm i 14,121.

Mae’r ffigurau go iawn yn debygol o fod yn sylweddol uwch, a hynny yn sgil y ffordd mae’r ffigurau’n cael eu hadrodd a’u cofnodi.

Ffigurau’r Swyddfa Ystadegau

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau, mae cyfanswm o 2,122 o bobol wedi marw yn sgil y coronafeirws yng Nghymru.

Maen nhw’n cyfri nifer y bobol sydd wedi marw o ganlyniad i’r coronafeirws, neu sydd wedi’u hamau o fod wedi marw yn sgil y feirws, yn wythnosol.

Mae’r ffigwr diweddaraf hyd at Fai 22.

Yn yr wythnos ddiwethaf i gael ei mesur, bu farw 134 o bobol yn sgil y feirws – y cyfanswm wythnosol isaf ers dechrau mis Ebrill.