Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn dweud bod pobol wedi bod yn cadw draw o ysbytai yn ystod y pandemig coronafeirws.
Roedd yn siarad yng nghynhadledd i’r wasg ddyddiol Llywodraeth Cymru, gan rybuddio na ddylai pobol osgoi mynd am driniaeth yn ystod yr argyfwng.
Dywed fod defnydd o adrannau brys wedi gostwng traean ers dechrau’r pandemig yng Nghymru.
Pwysleisiodd fod gwasanaethau hanfodol yn dal i weithredu, gan fynnu bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi ymdopi â’r pandemig.
“Rydym yn gwybod fod rhai pobol wedi cadw draw rhag derbyn gofal am eu bod yn bryderus am fynd i ysbytai yn ystod y pandemig,” meddai.
Cyhoeddi cynllun llawdriniaethau ddydd Mercher
Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cyhoeddiad ynglŷn â llawdriniaethau cyffredinol, dewisol yfory (dydd Mercher, Mehefin 3).
Dywed Vaughan Gething fod byrddau iechyd Cymru yn trafod sut i ddechrau cynnal llawdriniaethau yn ogystal â gwasanaethau canser.
Er mwyn lleddfu’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn ystod y pandemig, cafodd llawdriniaethau nad oedden nhw’n rhai brys eu gohirio ym mis Mawrth.
“Mae peth o hyn yn ymwneud â’r ffordd mae pobol yn ymddwyn, o ran pobol sydd â symptomau sydd am dderbyn triniaeth, ac yna pa mor fodlon fydd y bobol hynny sy’n cael eu hannog i fynychu ysbytai er mwyn derbyn triniaeth,” meddai Vaughan Gething yn y gynhadledd.
“Mae rhan helaeth o hyn yn ymwneud ag adeiladu hyder yn y gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli.”
‘Dal yn fodolaeth gyfyngedig’
Dywed Vaughan Gething fod pobol yn dal i wynebu “bodolaeth gyfyngedig” er gwaethaf rhai o’r newidiadau i’r gwarchae mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyflwyno.
Ers dydd Llun (Mehefin 1), mae gan bobol yng Nghymru’r hawl i deithio pum milltir er mwyn gweld teulu neu ffrindiau.
Ond anogodd Vaughan Gethin bobol i warchod gwahanol ardaloedd yng Nghymru drwy “aros yn lleol.”
Mynnodd fod neges y Llywodraeth o aros yn lleol yn glir, er ei fod y cydnabod fod lleol yn golygu rhywbeth gwahanol i bobol mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru.
“Mae’r neges yn glir gan y Llywodraeth, arhoswch yn lleol ac achubwch fywydau,” meddai.