Ardal Heddlu Dyfed Powys yw’r unig un o ardaloedd heddlu Cymru heb yr un achos o yrru dros 100mya yn ystod wythnosau cyntaf gwarchae’r coronafeirws, yn ôl yr RAC.

Fe wnaeth dwy ran o dair o heddluoedd gwledydd Prydain ddal pobol yn gyrru dros 100mya yn ystod tair wythnos gynta’r gwarchae, yn ôl ymchwiliad.

Dyma’r cyflymderau uchaf yng Nghymru gan yrwyr a dorrodd y terfyn rhwng Mawrth 23 ac Ebrill 13, yn ôl data gafodd ei roi gan heddluoedd i’r RAC:

  • Heddlu Gwent: 136mya (mewn ardal 70mya)
  • Heddlu Gogledd Cymru: 111mya (mewn ardal 70mya)
  • Heddlu De Cymru: 108mya (mewn ardal 50mya)
  • Heddlu Dyfed-Powys: 88mya (mewn ardal 60mya)

Brawychus

Yn ôl Simon Williams, llefarydd diogelwch ffyrdd yr RAC, mae’r cyflymderau gafodd eu cofnodi’n “wirioneddol frawychus”.

Mae’n rhybuddio na fyddai gan fodurwyr sy’n teithio mor gyflym â hyn “amser i ymateb pe bai unrhyw beth annisgwyl yn digwydd”.

“Mae rhai gyrwyr wedi manteisio ar ffyrdd tawelach i gyflymu’n ormodol, gan roi bywydau pobol eraill mewn perygl ar yr adeg waethaf bosibl,” meddai.

“Mae’n galonogol fod cymaint o heddluoedd wedi cymryd camau cadarn hyd yn oed yn ystod y gwarchae, sy’n anfon neges gref i droseddwyr eraill.”

Mae ffigurau’r Adran Drafnidiaeth yn dangos bod traffig ar y ffyrdd tua dwy ran o dair yn is na’r arfer am yr ychydig wythnosau cyntaf ar ôl i’r gwarchae gael ei gyflwyno ar Fawrth 23, pan gafodd pobol eu hannog i aros gartref ac osgoi teithio oni bai bod rhaid.

“Mae’r ffigurau ar gyfer troseddau goryrru ar ffyrdd 30mya yn peri pryder yn arbennig gan fod llawer mwy o bobol wedi bod yn cerdded ac yn beicio oherwydd y gwarchae,” meddai Simon Williams wedyn.

Ledled gwledydd Prydain, cafodd 17,363 o droseddau goryrru eu cofnodi ar ffyrdd sydd â therfynau 30mya.