Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro’r rheol newydd sy’n galluogi pobol o wahanol gartrefi i gwrdd ar yr amod nad ydyn nhw’n teithio mwy na phum milltir a’u bod nhw’n cadw at bellter cymdeithasol.
Maen nhw’n dadlau nad yw’n glir sut fydd y rheol newydd yn effeithio pobol mewn gwahanol rannau o Gymru, wrth i Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, ddweud y bydd peth hyblygrwydd yn achos pobol sy’n byw yng nghefn gwlad, lle byddai gofyn i bobol deithio mwy na phum milltir am rai gwasanaethau elfennol.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn am sicrwydd ynghylch y ffordd y bydd y rheolau newydd yn cael eu cyfleu er mwyn sicrhau bod pobol yn eu deall nhw.
Galw am sicrwydd
“Tra fy mod i heddiw yn croesawu llacio’r cyfyngiadau, mae rhai cwestiynau o hyd,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
“Dw i’n gwybod fod Llywodraeth Cymru’n gwneud y penderfyniadau hyn er mwyn ceisio ein cadw ni’n ddiogel, ond er mwyn i bobol gael hyder yn y rheolau, rhaid eu hegluro nhw’n glir.
“Yn ei gynhadledd, mae’n ymddangos bod y prif weinidog yn awgrymu bod mwy o hyblygrwydd yn y cyfyngiadau pum milltir newydd nag a gafodd ei adrodd yn wreiddiol.
“Mae hyn yn wahaniaeth sy’n bwysig iawn, yn enwedig i gymunedau cefn gwlad lle nad yw pum milltir yn bellter enfawr i deithio.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru gynnig eglurder ar frys ynghylch unrhyw hyblygrwydd o fewn y rheoliadau newydd.
“Rhaid i ni ymddiried mewn pobol i fod yn gyfrifol a dilyn y rheolau, ond hefyd sicrhau bod y rheolau’n rhoi ystyriaeth i sefyllfaoedd amrywiol mewn gwahanol rannau o Gymru.”
‘Eglurder yn hanfodol’
Mae sylwadau Jane Dodds wedi’u hategu gan y Cynghorydd Rodney Berman, prif ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer sedd Canol De Cymru yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.
“Mae eglurder ynghylch sut mae’r rheolau newydd yn berthnasol yn hanfodol i bobol mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru,” meddai.
“Gallai caniatáu i bobol fynd ychydig ymhellach helpu gydag ymbellháu cymdeithasol, megis mewn achosion lle mae’r parc lleol yn boblogaidd ac felly ychydig yn orlawn.
“Gallai hyn fod yn fater yn benodol ar gyfer y rhai sy’n byw mewn fflatiau neu dai teras sydd efallai â mynediad cyfyng neu sydd heb fynediad o gwbl i’w gerddi eu hunain.
“Dw i’n gwybod fod rhai pobol hefyd yn cwestiynu a yw’n bosib gweld ffrindiau neu deulu sydd efallai yn byw mwy na phum milltir oddi wrthyn nhw, felly dw i’n siŵr y bydden nhw’n awyddus i wybod a oes yna unrhyw lacio sy’n berthnasol iddyn nhw hefyd.
“Dw i’n deall pam fod Llywodraeth Cymru’n defnyddio dull gofalus er mwyn sicrhau ein bod ni’n osgoi ail don, ond mae angen i ni sicrhau yr un pryd fod y rheolau’n ddigon clir ac yn ddealladwy.”