Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i gadw draw o afonydd a llynnoedd.

Er gwaetha’r tywydd braf – a llacio’r cyfnod clo – rhaid cymryd gofal, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

“Yn ystod y cyfnod clo, does yna ddim llawer o ddyfroedd sydd yn cael eu goruchwylio,” meddai Pennaeth Diogelwch Cymunedol y gwasanaeth, Karen Jones.

“Ac ar ben hynny mae’r gwasanaethau brys yn wynebu mwy o bwysau ar hyn o bryd. Daw perygl go-iawn wrth blymio mewn i ddŵr.”

Peryglon

Mae’r swyddog hefyd yn cynghori yn erbyn “neidio i ddŵr o uchder” am fod dŵr yn fwy bas mewn cyfnodau o dywydd sych.

Ac mae’n ategu bod “sioc dŵr oer” yn fygythiad posib. Gall sioc achosi dyn i lyncu dŵr, a boddi.