Mae Prifysgol Bangor wedi dweud wrth golwg360 eu bod yn “cynllunio ar gyfer tri phosibilrwydd” wrth ystyried sut i ail-agor yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Daw hyn wedi i Brifysgol Abertawe gyhoeddi ddoe (dydd Iau, Mai 28) ei fod yn bwriadu agor ac addysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi.

Dywed Prifysgol Bangor wrth golwg360 ei fod yn paratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf hefyd.

“Rydym wrthi’n paratoi ar gyfer y tymor newydd fis Medi yn barod,” meddai’r Brifysgol.

“Yn amlwg, mae’n anodd rhagweld sut yn union y bydd pethau erbyn hynny wrth gwrs, felly rydym yn cynllunio ar gyfer tri phosibilrwydd ar hyn o bryd: darparu cyrsiau ar y “campws”, addysgu o bell, neu gyfuniad o’r ddau yn amodol ar yr angen i ymbellhau.

“Ein nod pennaf yw rhoi’r profiad gorau posib i’r myfyrwyr, a chadw pawb mor ddiogel â phosibl.”

Prifysgol Aberystwyth i gyhoeddi “manylion pellach yn y dyfodol agos”

 Yn wahanol i Brifysgol Bangor, dyw Prifysgol Aberystwyth ddim wedi gwneud cyhoeddiad o’r fath eto, gan ddweud wrth golwg360 mai “lles a diogelwch pawb” yw ei blaenoriaeth.

“Rydym wrthi’n cynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, sy’n golygu derbyn mewnbwn ein staff, ein myfyrwyr a phartneriaid allweddol,” meddai llefarydd ar ran y brifysgol.

“Rydym yn cynllunio gan roi blaenoriaeth i les a diogelwch pawb, gan gynnwys y gymuned ehangach yn Aberystwyth.

“Er bod lefel yr haint yn yr ardal leol yn gymharol isel ar hyn o bryd, rydym yn cydweithio gydag eraill i wneud popeth y gallwn i gynnal y sefyllfa honno, wrth barhau i ddarparu dysgu ansawdd-uchel i’n holl fyfyrwyr.

“Rydym yn bwriadu cyhoeddi manylion pellach yn y dyfodol agos.”