Mae diffoddwyr tân yn cynghori trigolion yn ardal Rhiwabon ger Wrecsam i gadw eu drysau a ffenestri ynghau oherwydd mwg gwenwynig, wrth iddyn nhw barhau i ddelio â digwyddiad mawr yn safle claddu sbwriel Chwarel Hafod.

Mae Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru yn cynghori fod cyfeiriad y gwynt wedi symud gyda mwg yn effeithio rhannau o dref Wrecsam.

Mae tua 30 o ddiffoddwyr tân o Johnstown, Wrecsam, Llangollen, Ellesmere, Y Waun a Llandudno yn parhau i fod ar y safle.