Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid newydd o £20m er mwyn trawsnewid gwasanaethau digartrefedd.

Ers i’r gwarchae fod mewn grym, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £10 miliwn, gan ddarparu llety i dros 800 o bobl.

Roedd nifer o’r bobl yma yn cysgu ar y stryd, neu’n dioddef ‘digartrefedd cudd’ gan symud o soffa i soffa neu fyw mewn llety dros dro.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod am newid sut mae edrych ar ddigartrefedd yn y tymor hir.

Byddant yn gofyn i awdurdodau lleol lunio cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau a’r llety sy’n cael ei gynnig ar draws Cymru er mwyn helpu’r rhai sydd mewn llety dros dro.

Maent yn gobeithio gallu sicrhau cartrefi tymor hirach ag opsiynau mwy addas i bobl sy’n wynebu digartrefedd.

“Gwahaniaeth enfawr”

Gan gyhoeddi’r cyllid cyn uwchgynhadledd rithiol ar ddigartrefedd gydag awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gwasanaethau iechyd a’r trydydd sector, dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

“Mae ymdrechion cyfunol y sector i letya pobl ddigartref yn ystod y pandemig wedi bod yn anhygoel. Doedd cael dros 800 o bobl oddi ar y stryd neu allan o lety anaddas ddim yn dasg hawdd, ond drwy gydweithio rydyn ni wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau’r bobl yma,” meddai.

Tra bod Jon Sparkes, cadeirydd y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd a phrif weithredwr Crisis wedi dweud: “Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau cadarnhaol iawn ar hyn o bryd, ac wrth i’r cyfyngiadau ar symud lacio, rwy’n edrych ymlaen yn y man at weld cynllun Llywodraeth Cymru i atal digartrefedd a rhoi diwedd arno yn llwyr, yn unol ag argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd.”