Mae mam a bostiodd sylwadau gwrth-Gymreig ar ei gwefan gymdeithasol bellach yn destun ymchwiliad gan yr heddlu.
Cafodd y fam ei stopio rhag cerdded ar draeth Cymreig ar ôl teithio mwy na 100 o filltiroedd.
Tra’r oedd ar draeth Abermaw, yng Ngwynedd yn cael ei hwynebu gan yr heddlu, ceisiodd y ddynes ddadlau bod cyfyngiadau cloi i lawr wedi’u lleddfu a bod “Boris Johnson wedi dweud eich bod yn gallu”.
Fe ffilmiodd y ddynes y digwyddiad, a dywedodd swyddogion wrthi fod y rheolau’n wahanol yng Nghymru.
Ond yna, ar ei phroffil cyfryngau cymdeithasol, ymddangosodd y sylw “F*** you Wales you bunch of b*******”.
Aeth fideo o’r digwyddiad yn feiral ar ôl i’r ddynes, sydd heb ei henwi, ffilmio’r digwyddiad a’i rannu.
“Hiliol” a “dilornus”
Nawr, mewn ymateb i negeseuon honedig “hiliol” a “dilornus”, mae’r heddlu’n ymchwilio i’r mater.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol dros dro Heddlu Gogledd Cymru, Nigel Harrison, wrth Wales Online:
“Gweithredodd y swyddogion yn union fel y bydden i’n disgwyl, mewn modd digyffro a phroffesiynol, gan ddiogelu’r gymuned leol.
“Rwy’n ymwybodol bod sylwadau a oedd yn ymddangos fel pe baen nhw wedi cael eu postio gan un o’r troseddwyr ar ôl y digwyddiad â naws ddilornus a hiliol.
“O’r herwydd, mi fyddan nhw’n cael eu hadolygu fel trosedd.
“Edrychwn ymlaen at ei chroesawu’n ôl i Gymru i drafod hyn ymhellach pan fydd y rheoliadau wedi’u llacio. ”
Er bod pobl yn Lloegr yn gallu gyrru ar gyfer ymarfer corff, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai pobl aros yn lleol wrth ymarfer, gyda mesurau teithio hanfodol yn unig yn dal mewn grym.
Y fideo
Adroddodd The Birmingham Mail fod y fam wedi rhannu’r ffilm ei hun gan nad oedd ganddi syniad o’r cyfyngiadau dros y ffin.
Gellir ei chlywed yn herio dau swyddog yn y clip wrth iddyn nhw ofyn iddi adael y traeth.
“Rydych chi’n dweud wrtha i ei bod yn anghyfreithlon i mi fod ar y traeth yma, pan mae Boris Johnson wedi dweud y gallwn ni.”
Mae’r swyddog yn ymateb: “Rydyn ni’n dweud wrthych chi ei fod yn wahanol yng Nghymru nag yn Lloegr. ”
Yn benderfynol o deithio i draeth arall gyda’i phlentyn, mae’r fam wedyn yn gofyn: “Felly pa draeth alla i fynd iddo nawr heddiw? ”
Parhaodd y swyddogion i egluro wrthi nad oedd posib iddi ymweld ag unrhyw draeth arall yng Nghymru.