Mae criwiau ambiwlans wedi dioddef ymosodiadau ar ôl gofyn i gleifion wisgo masgiau llawfeddygol, yn ôl penaethiaid iechyd.
Dywed Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod rhai cleifion wedi bihafio’n ymosodol pan ofynnwyd iddynt wisgo masgiau a bod “nifer fach” o feddygon wedi dioddef ymosodiadau.
Maent yn gofyn i rai cleifion wisgo masgiau fel mesur rhagofalus i geisio stopio’r coronafeirws rhag lledaenu, yn enwedig y rhai hynny sy’n dangos unrhyw symptomau.
Ond mae mwy o gleifion yn ymddwyn yn ymosodol pan mae criwiau ambiwlans yn gofyn iddynt i gydymffurfio.
“Ar hyn o bryd, bydd ein criwiau yn mynychu pob digwyddiad gyda chyfarpar diogelu personol,” meddai cyfarwyddwr gweithredol safon ag nyrsio, Claire Roche.
“Mae hefyd yn bosib y byddan nhw’n gofyn i chi, y claf, i wisgo masg llawfeddygol.
“Maent yn gwneud hyn nid yn unig i’ch gwarchod chi ond er mwyn gwarchod y bobl o’ch cwmpas.
“Dyw ymosod ar ein staff byth yn dderbyniol mewn unrhyw amgylchiadau.”