Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi bod yn rhan o brosiect ar y cyd â Iechyd Cyhoeddus Lloegr a Phrifysgol Nottingham Trent sydd wedi gwneud cam ymlaen yn y frwydr yn erbyn cyflwr sepsis.

Mae gwyddonwyr wedi dod o hyd i folecylau yn y gwaed sy’n gallu darogan sut y bydd cleifion mewn unedau gofal dwys yn ymateb i sepsis, sioc septig a syndromau ymfflamychol.

Dyma’r tro cyntaf y bydd clinigwyr yn gallu cynnig triniaeth wedi’i theilwra ar gyfer anghenion imwinedd unigol.

Y gobaith yw y gallai’r ymchwil arwain at greu therapïau newydd i drin y cyflwr a chreu cyffuriau newydd, yn ogystal â chynnig ffordd newydd o drin cleifion sydd â symptomau’r coronafeirws, sy’n gallu bod yn debyg i effeithiau sepsis.

Ymateb

“Gall sepsis mewn uned gofal dwys ymddangos mewn sawl ffordd, ac rydym wedi dysgu bod diffinio grŵp o gleifion ar sail paramedrau clinigol yn unig yn anodd,” meddai Dr Tamas Szakmany o Brifysgol Caerdydd.

“Fe fydd dealltwriaeth drylwyr o ymateb molecwlaidd i haint yn ein helpu i drin y cleifion hynny â therapïau newydd sy’n fwyaf tebygol o elwa o’r dulliau arbrofol hyn.

“Rydym yn credu y gall ein model biofformatig gael ei gymhwyso’n ddigon hawdd wrth chwilio am fiofarciau a allai ein helpu ni i ddarganfod difrifoldeb a phrognosis yr afiechyd newydd, Covid-19.”

Beth yw sepsis?

Mae sepsis yn gyflwr difrifol sy’n gofyn am ofal dwys.

Mae’n ymddangos pan fo’r system imiwnedd yn gorymateb i haint ac yn dechrau niweidio meinwe ac organau.

Mae gan chwarter y bobol sy’n cael eu derbyn i unedau gofal dwys gyflwr sepsis.

Ond ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am y prosesau imiwnedd sydd ynghlwm wrth y cyflwr, a byddai mwy o wybodaeth yn galluogi clinigwyr i wahaniaethu rhwng sepsis a chyflyrau eraill.

Mae’r gwaith ymchwil wedi cael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Frontiers in Immunology.