Mae Nick Thomas-Symonds, AS Torfaen ac ysgrifennydd cartref yr wrthblaid, wedi anfon cyfres o gwestiynau at yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel yn ymwneud â helynt Dominic Cummings.

Mae’n ei holi’n benodol a yw’r cyfyngiadau ar deithio wedi eu diweddaru i rieni plant bach.

Mae’n gofyn: “Os yw pobl yn teithio mewn car gan ddisgwyl gofal plant ar ryw bwynt, allwch chi gadarnhau na fydd gan yr heddlu’r grym i gyflwyno Rhybuddion Cosb Penodol iddyn nhw?”

Mae’n gofyn iddi hefyd gyhoeddi manylion unrhyw ohebiaeth rhwng Heddlu Durham a swyddogion neu weinidogion y llywodraeth ers dydd Iau 21 Mai.

“Fel y gwyddoch, mae plismyn wedi rhoi eu hunain mewn peryglon mawr yn yr argyfwng yma, gan weithio’n fedrus iawn hefyd i ddehongli ac esbonio deddwriaeth iechyd cyhoeddus,” meddai.

“Mae’n ymddangos fod y dryswch a’r camddealltwriaeth sy’n cael ei achosi gan ymateb y llywodraeth i’r datgeliadau hyn yn gwneud y gwaith yma’n fwy anodd fyth.”

Rhybudd cyn-brif gwnstabl

Yn y cyfamser, mae cyn-brif gwnstabl Durham, Mike Barton, hefyd yn rhybuddio am effaith amddiffyniad y Prif Weinidog o Dominic Cummings ddoe ar waith yr heddlu.

“Mae’n debygol mai plismona’r cyfyngiadau yw un o’r tasgau mwyaf anodd a roddwyd erioed i heddlu Prydain ac maen nhw wedi codi i’r her,” meddai.

“Ond mae’r hyn a wnaeth y Prif Weinidog ddoe wedi gwneud y gwaith yn llawer anoddach i bob plismon a swyddog cynorthwyol ar y rheng flaen.
“Rydym ar ganol argyfwng cenedlaethol, ac all pobl sy’n gwneud y rheolau ddim torri’r rheolau, neu byddwn yn cael anhrefn.”