Fe fydd Llywodraeth Cymru’n derbyn hwb ariannol pellach o hyd at £23 miliwn i helpu ymladd y coronafeirws ac ymdrin â’i effeithiau.

Daw hyn yn sgil ymrwymiadau ariannol gan Lywodraeth Prydain ar gyfer y gwasanaeth profi ac olrhain, a llety i bobl sy’n cysgu ar y stryd.

Dywed Llywodraeth Prydain fod hyn yn codi cyfanswm ei chymorth ariannol ychwanegol i Lywodraeth Cymru i dros £2.2 biliwn ar gyfer yr argyfwng.

“Mae Llywodraeth Prydain wedi ymrwymo i wneud beth bynnag fo’i angen i drechu’r coronafeirws,” meddai Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart.

“Rydym yn helpu Llywodraeth Cymru i wynebu’r heriau eithriadol sydd o’i blaen ar hyn o bryd, drwy rhoi £23 miliwn yn fwy mewn cyllid ychwanegol.

“Mae’n amlygu’n penderfyniad i symud ymlaen gyda’n gilydd yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.”