Mae’r Prif Weinidog wedi awgrymu na fydd llacio mawr ar y cyfyngiadau Covid-19 yn y dyfodol agos.
Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r cyfyngiadau ar ddiwedd yr wythnos nesaf, ac mae’n ddigon posib y bydd rhai rhwystrau’n cael eu codi.
Ond mewn cynhadledd i’r Wasg brynhawn heddiw, dywedodd Mark Drakeford mai “gofalus” fydd camau nesaf ei lywodraeth.
Ymhelaethodd ar hyn wrth ateb cwestiwn am y cyfradd-R yng Nghymru – hynny yw, y nifer o bobol sy’n cael eu heintio gan berson â coronafeirws (0.8 yw’r ffigur yn y wlad hon).
“Pan ddaw at gyflwyno newidiadau ledled y Deyrnas Unedig, cyfyng yw’r opsiynau o hyd,” meddai.
“Hyd yn oed â 0.8 fydd y camau ychwanegol y cymerwn ddim yn eithafol – byddan nhw’n ofalus. Pe bai’n codi ond rhyw ychydig, byddai ein hopsiynau’n troi’n llawer mwy cyfyng”.
Llacio camau, bwydo’r haint?
Ar ddechrau’r mis cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod llyfrgelloedd a gerddi yn medru ailagor, a bod pobol yn cael mynd allan i ymarfer corff ddwywaith y diwrnod.
Yn y gynhadledd i’r Wasg holwyd y Prif Weinidog os oedd y llacio yma wedi arwain at gynnydd yn y gyfradd-R yng Nghymru.
Yn ymateb i hynny dywedodd “ei fod ychydig yn rhy gynnar i wybod os ydy’r mesurau yna, hyd yma, wedi arwain at gynnydd yng nghylchrediad y feirws yn y gymuned.”
Ffigurau diweddaraf
Mae ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod saith person arall wedi marw yng Nghymru ar ôl derbyn prawf positif am Covid-19.
Hefyd mae 138 yn rhagor wedi derbyn canlyniad positif sy’n golygu bod 12,984 o achosion yn y wlad hon ar hyn o bryd.
1,254 sydd wedi marw hyd yma.