Mae cynlluniau ar droed i goffau 80 mlynedd ers dinistrio cymuned Gymraeg ei hiaith yn ne Powys.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyhoeddodd Llywodraeth Prydain ei bod am feddiannu tir ar Fynydd Epynt i’w ddefnyddio’n ardal i hyfforddi milwyr.

Erbyn diwedd Mehefin 1940, roedden nhw wedi symud y gymuned leol – rhyw 219 o bobol i gyd, llawer ohonyn nhw yn Gymry uniaith – oddi yno, a throdd yr ardal yn ‘Ardal Hyfforddi Pontsenni’.

I nodi’r tyrchu allan, bydd Cymdeithas y Cymod yn trydaru enw un o ffermydd y gymuned bob diwrnod – hyd at Fehefin 30. A’r bwriad, yn ôl un o’r rheiny sydd ynghlwm â hyn, yw “codi chwilfrydedd”.

“Y nod yw tynnu sylw at yr anghyfiawnder a fu, ac sy’n parhau i fod,” meddai Robat Idris. “Cafodd y bobol druan yma eu troi allan efo mond ychydig o wythnosau o rybudd.

“O’r hyn rydym ni’n deall, roedd llawer dan yr argraff y byddan nhw’n cael mynd yn ôl. Ond dydyn nhw erioed wedi… Mae’n stori sy’n werth ei hadrodd.”

Y prosiect

Cymdeithas y Cymod sy’n arwain y prosiect, ac yn wreiddiol roedden nhw wedi gobeithio cynnal digwyddiad i nodi’r 80 blynedd.

Roedd awydd hefyd i goffau Cymry Epynt yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Nhregaron, ond mae Covid-19 wedi dryllio’r gobeithion hynny.

Mae erthyglau eisoes wedi’u cyhoeddi gan y rheiny sydd ynghlwm â’r prosiect, ac mae trafodaethau yn mynd rhagddynt ynghylch ffyrdd eraill o godi ymwybyddiaeth.

Y Prifardd Mererid Hopwood sy’n cadeirio’r prosiect, ac mae Euros Lewis, a chyd-sgwennodd y ddrama Golau’r Epynt hefyd ynghlwm ag ef.