Mae cynghorau Cymru yn ceisio rheoli eu cyllidebau yn “ofalus” yn wyneb her y coronafeirws.

Dyna ddywedodd Andrew Morgan, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gerbron un o bwyllgorau’r Senedd brynhawn heddiw (Dydd Iau, Mai 21).

Roedd yr arweinydd Cyngor yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am effeithiau Covid-19.

Ac mi ddatgelodd bod cynghorau Cymru (gyda’i gilydd) wedi profi bwlch o £173m yn eu cyllidebau yn ystod tri mis cyntaf yr argyfwng. Colled incwm yw un o’r prif heriau, meddai.

“Bydd yna rai meysydd a fydd yn parhau i wynebu pwysau o ran costau, a cholled incwm, am fisoedd i ddod,” meddai. “Un enghraifft yw gwasanaethau hamdden cynghorau.

“Bydd miliynau yn cael eu colli am bob mis y maen nhw’n parhau ynghau. A’r realiti yw y byddan nhw ddim yn agor am fisoedd yn rhagor. Felly rydym yn ceisio rheoli ein cyllidebau yn ofalus.”