“Sgandal genedlaethol” – dyna ymateb llefarydd dros bobl hŷn y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders, wedi ymateb i’r newyddion fod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi cyfeirio Llywodraeth Cymru at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Mae’n dilyn pryderon am yr oedi wrth gynnal profion am y coronafeirws mewn cartrefi gofal.

Ond wrth siarad ar raglen  Today ar BBC Radio 4 roedd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi amddiffyn polisi Llywodraeth Cymru gan fynnu nad oedden nhw wedi gwneud dim byd o’i le.

“Tristwch a dicter”

Dywedodd Janet Finch-Saunders ei bod wedi galw ar Lywodraeth Lafur Cymru ddoe (Mai 20) i ymgorffori hawliau pobl hŷn yn gyfraith, ac y byddai’n cynnig deddf ar y mater.

Ychwanegodd ei bod wedi darllen y newyddion heddiw (dydd Iau, Mai 21) “gyda chymysgedd o dristwch a dicter”.

“Fe wnaethon ni alw am gynnal profion ar holl breswylwyr cartrefi gofal wythnosau yn ôl.

“Mae beth sydd wedi digwydd mewn cartrefi gofal yn debygol o gael ei gofio fel sgandal genedlaethol, a dw i’n ofni meddwl faint o fywydau allai fod wedi cael eu hachub.”

Cyngor

Dywedodd Vaughan Gething: “Y cyngor a’r dystiolaeth gawson ni ar y pryd oedd bod dim gwerth mewn cynnal profion ar bobl oedd ddim yn dangos symptomau.

“Fe wnaethon ni newid hynny a dechrau cynnal profion ar bobl oedd yn gadael yr ysbyty o Ebrill 22 ymlaen.”

Fe fu beirniadaeth chwyrn o’r penderfyniad i anfon rhai cleifion oedrannus o’r ysbyty, heb iddyn nhw gael prawf, i gartrefi gofal ar draws y Deyrnas Unedig yn ystod cyfnod cynnar y pandemig. Y bwriad oedd rhyddhau gwelyau yn yr ysbytai.

Y gred yw bod y polisi wedi cyfrannu at ledaenu’r firws mewn cartrefi gofal.