Mae cost y difrod i goedwigoedd sy’n cael eu rheoli  gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi codi i fwy na £500,000.

Yn dilyn cyfres o danau gwyllt ar draws Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn egluro’r dinistr a achoswyd i ardaloedd eang o goedwigoedd a bywyd gwyllt yng Nghymru.

Cafodd dros 120 hectar o dir ei ddifrodi mewn tan rhwng Aberystwyth a Machynlleth yr wythnos hon. Mae lle i gredu bod y tan ger Llyn Conach yng Ngheredigion wedi’i gynnau’n fwriadol.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru mae tanau gwyllt hefyd wedi rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau brys sydd wedi gorfod ymateb i’r tanau yn ystod y pandemig coronafeirws.

Yr ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio waethaf ydy Bangor, Afon Wen yn Nolgellau, Coedwig Afan, Gwaun Hepste ym Mhenderyn, Mynydd Cilfái yn Abertawe, Esgair Dafydd ger Llanwrtyd a Phlas Y Mynydd yng Ngheredigion.

“Colled ariannol sylweddol”

 Yn ôl James Roseblade, rheolwr coedwigaeth yn Ne Orllewin Cymru: “O ystyried yr argyfyngau hinsawdd a natur yr ydym i gyd yn eu hwynebu, tanau gwyllt yw’r peth olaf sydd ei angen ar dirwedd Cymru.

“Mae’r tanau wedi arwain at golled ariannol sylweddol o £500,000 i Gyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae’r effaith ar natur a bywyd gwyllt, yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn pan fo rhai adar yn nythu ar lawr, yn gwbl ddinistriol.”

“Perygl gwirioneddol”

Eglurodd Dylan Williams o Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n gweithio’n agos â’r gwasanaethau brys, fod un o’r tanau wedi ei achosi gan wreichionyn o dân gardd a achosodd iddo ymledu i’r goedwig.

“Cyn cynnau tân yn yr ardd, meddyliwch a yw’n hanfodol ai peidio. Gall pethau fynd allan o reolaeth mor hawdd,” meddai.

“Pan fydd tanau’n cael eu cynnau’n fwriadol, mae’r troseddwyr nid yn unig yn niweidio’r amgylchedd, maen nhw’n rhoi eu hunain, y gwasanaethau brys, a thrigolion lleol mewn perygl gwirioneddol.”

Gan gydweithio â’r gwasanaeth tân ac achub, yr heddlu a phartneriaid eraill mae ymgyrch Dawns y Glaw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r effaith gall tanau fel hyn achosi.