Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, a’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer iechyd meddwl a fydd yn cynnwys cymorth newydd i blant o dan 11 oed.

Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau cwnsela ysgolion yn darparu cymorth uniongyrchol i bobl ifanc o 11 oed, neu Flwyddyn 6, i 18 oed.

Bydd y cyllid sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw (Dydd Llun, Mai 18) yn ehangu’r cymorth i ddarparu cefnogaeth feddyliol ac emosiynol i blant iau na Blwyddyn 6.

Bob blwyddyn, mae tua 11,500 o bobl ifanc yn manteisio ar gymorth iechyd meddwl lefel is, mewn ysgolion a thrwy wasanaethau cwnsela cymunedol, meddai Kirsty Williams.

Bydd £450,000 hefyd yn mynd tuag at gefnogi iechyd meddwl a lles gweithlu ysgolion. Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gyda’i phartneriaid i ddatblygu cynlluniau pellach o ran sut i ddarparu’r cymorth hwnnw.

Mae’r cyllid yn ychwanegol at £1.25m a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg  Kirsty Williams fis diwethaf er mwyn i awdurdodau lleol gael darparu gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion, sy’n dod â chyfanswm y cymorth i £5m y flwyddyn ariannol hon.

 

 “Pryder ychwanegol”

“Mae’n anochel bod y coronafeirws yn achosi pryder ychwanegol i bobl o bob oed, ac i blant a phobl ifanc yn gymaint â neb,” meddai Kirsty Williams.

“Er bod problemau iechyd meddwl difrifol yn llai cyffredin ymhlith plant iau, rydyn ni’n ehangu’r cymorth sydd ar gael fel bod modd i blant o dan 11 oed hefyd gael help emosiynol, os oes ei angen arnynt.”

Tra bod Vaughan Gething wedi dweud: “Yn wyneb y cyfyngiadau angenrheidiol ar fywydau pobl ifanc yn sgil y coronafeirws, sy’n golygu llai o amser gyda’u ffrindiau ac aelodau o’u teuluoedd, mae’n rhaid inni fod yn barod am effaith ar les emosiynol plant.

“Mae’n bwysig, felly, ein bod ni’n parhau i fuddsoddi mewn cymorth iechyd meddwl ar gyfer ein pobl ifanc yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.”