Mae cleifion yn ofni mynd at eu meddyg teulu neu i’r ysbyty oherwydd y coronafeirws, a dydyn nhw ddim eisiau bod yn faich ar y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl meddyg teulu.

Dywedodd Dr Robert Morgan, o Goleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru, bod meddygfeydd yn parhau ar agor yn ystod y pandemig Covid-19 ond ei fod yn poeni beth fydd yn digwydd os oes cynnydd sylweddol mewn apwyntiadau.

“Pan dy’n ni’n siarad efo cleifion sy’n ffonio ni’n ddyddiol erbyn hyn, maen nhw’n ofnus, mae ganddyn nhw ofn dod aton ni,” meddai Dr Robert Morgan.

“Mae ganddyn nhw ofn dod i’r feddygfa, ac yn bendant mae ganddyn nhw ofn mynd i’r ysbyty.

“Mae ’na elfen arall hefyd, yn sicr ymhlith y boblogaeth hŷn sy’n cysylltu â ni, dydyn nhw ddim eisiau bod yn faich arnon ni oherwydd ein bod ni’n brysur.”

Roedd Dr Robert Morgan, sy’n feddyg teulu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn ateb cwestiynau gan aelodau o Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd.

Perygl

Clywodd y pwyllgor bod nifer y bobl sy’n mynd i’r adrannau damweiniau ac achosion  brys mewn ysbytai wedi gostwng oherwydd y firws, a bod hynny’n cael ei adlewyrchu mewn meddygfeydd hefyd.

Ychwanegodd bod ’na ochr “eitha’ positif i hyn i gyd yn yr ystyr bod cleifion yn llwyddo i reoli mân gyflyrau drwy hunanofal heb orfod mynd at fferyllfa neu feddyg teulu.

“Efallai bod hyn yn rhywbeth gall pobl ei gario mlaen,” meddai.

Ond fe rybuddiodd am y peryglon o ddweud wrth gleifion bod meddygfeydd ar agor.

“Wrth weithio gyda’r Llywodraeth, rhaid i ni roi’r neges gywir i gleifion a bydd dweud ‘o fory fe fydd meddygfeydd ar agor’  yn achosi mwy o niwed i les meddygon teulu a’r strwythur gallwn ni ei gynnig, a chleifion.”

Ychwanegodd Dr Robert Morgan y byddai hynny’n rhoi gormod o bwysau ar feddygfeydd sydd eisoes yn brysur.

“Dw i’n credu bod angen i ni ystyried agor yn raddol, gyda’r un neges yn cael ei roi gan y Llywodraeth, y byrddau iechyd a meddygfeydd.”

‘Dryslyd’

Yn ôl Dr Peter Saul, cyd-gadeirydd Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru, mae rheolau Lloegr ynglŷn â’r cyfyngiadau yn “ddryslyd”.

Dywedodd bod ei feddygfa ar y ffin a Lloegr a bod llawer o’i gleifion yn gweithio yn Lloegr.

“Dryswch ydy’r unig air alla’i ddefnyddio oherwydd dydy pobl ddim yn gwybod beth ddylen nhw fod yn gwneud,” meddai wrth y pwyllgor.

“Mae’r cyngor o Loegr yn ddigon dryslyd fel y mae ond pan dach chi’n cyfuno hynny gyda.. ‘Dwi’n mynd i weithio yng Nghymru ydy hynny’n golygu bod rhaid i fi gadw at reolau Cymru?’ neu ‘Dwi’n nôl y plant o Loegr, ydw i’n cael gwneud hynny?’.

“Mae’n ddryslyd ac alla’i ddim dweud mwy na hynny,” meddai.