Mae’r cwmni oedd yn gyfrifol am ddatblygu adeilad y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Daw hyn bedwar mis yn unig ar ôl i Gyngor Caerdydd gynnig benthyciad o £2m i’r grŵp ‘Signature Living’ i’w helpu i orffen y datblygiad dadleuol.

Mae cyfrifon diweddaraf ‘Signature Living Coal Exchange’ ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar Fawrth 31, 2018, yn dangos bod ganddyn nhw asedau gwerth £10.4m a dyledion o  £19m.

Mae gwesty’r Exchange yn rhan o bortffolio o westai sy’n eiddo Lawrence Kenwright, datblygwr yn Lerpwl, sy’n cynnwys gwesty’r prif gwmni Shankly yng nghanol Lerpwl a gwesty moethus George Best yn Belfast.

Aeth y ddau hyn i ddwylo’r gweinyddwyr fis diwethaf.

Yn ogystal â hynny, mae Signature Living Hotel Limited, a arferai fod yn rhiant-gwmni i’r Gyfnewidfa Lo, hefyd yn nwylo’r gweinyddwyr.

Yn 2016, pan ddechreuodd Signature Living  adnewyddu’r Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd, roedd yn un o’r busnesau a oedd yn tyfu gyflymaf yn y wlad.

Fel llawer yn y sector lletygarwch, mae’r pandemig coronafeirws wedi eu bwrw’n galed ac mae gweinyddwyr bellach wedi cael eu galw i mewn i nifer o gwmnïau’r grŵp.

Anwybyddu rhybuddion

Yn ôl Cymdeithas Ddinesig Caerdydd, roedden nhw wedi rhybuddio’r Cyngor rhag gwneud busnes gyda Lawrence Kenwright.

“Fe wnaethom rybuddio Cyngor Caerdydd am y risg difrifol o ganiatáu i Signature Living ymgymryd â’r Gyfnewidfa Lo,” meddai’r gymdeithas.

“Roedd methdaliad blaenorol Mr Kenwright, trafodion ariannol a’i anghymwysiadau yn ei wneud yn ymgeisydd anaddas iawn ar gyfer y gwaith adnewyddu cymhleth o un o adeiladau hanesyddol pwysicaf Caerdydd.

“Gwnaed hyn yn gwbl glir hefyd gan Stephen Doughty AS, pan siaradodd yn rymus yn 2014.

“Mae wedi bod yn amlwg ers cryn amser nad yw llawer o’r gwaith atgyweirio hanfodol i’r adeilad wedi’i wneud.

“Mae hyn yn gadael marc cwestiwn dros ddyfodol yr adeilad, gan ei bod yn hen bryd gwneud y gwaith adfer hwn, ac mae rhannau o’r adeilad yn parhau i fod mewn cyflwr gwael.”