Mae Adam Price wedi beirniadu gohebydd Materion Cartref y BBC am adroddiad yn ymwneud â chyfyngiadau teithio’r coronafeirws.

Mae neges arweinydd Plaid Cymru’n cyfeirio at gyfweliad rhwng y gohebydd Daniel Stanford a’r cyflwynydd Simon McCoy.

Roedd y ddau yn trafod y cyhoeddiadau diweddar gan Boris Johnson y caiff pobl deithio o’u cartrefi yn Lloegr i wneud ymarfer corff.

Mae’r cyhoeddiad yma, wrth gwrs, yn wahanol i ofynion Cymru, lle mae’r prif weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud yn glir fod unrhyw ymarfer corff i ddechrau a gorffen o adref.

“Os ydych chi am fynd yn eich car, fe gewch chi,” meddai Simon McCoy.

“Fe gewch chi fynd mor bell ag yr hoffech chi, ond chewch chi ddim mynd mewn i genedl arall dros y ffin.”

‘Gwleidyddiaeth ar waith’

Mynegodd Daniel Stanford fod yna rhyw fymryn o wleidyddiaeth ar waith a bod y cenhedloedd eraill yn “taflu eu pwysau” ac yn dweud nad ydyn nhw am gymryd cyfarwyddyd gan San Steffan, yn ogystal â’r gofid fod lefelau’r haint ychydig yn uwch yng Nghymru a’r Alban ar hyn o bryd.

“Ond dyma’r sefyllfa hurt y gallai rhywun sydd yn byw yn Lloegr ar y ffin â Chymru deithio yr holl ffordd ar draws y wlad i East Anglia ond chawn nhw ddim gyrru rhyw bum milltir dros y ffin i Gymru o dan y rheolau yma,” meddai Daniel Standford.

“Ond, does neb wir yn mynd i blismona hynny, dim ond beth mae’n nhw’n gofyn i bobol ei wneud ydi o oherwydd y gwahanol reolau yn y gwahanol wledydd.”

‘Newyddion ffug’

“Mae gohebydd Meterion Cartref y BBC wedi dweud na fydd teithio di angen rhwng Lloegr a Chymru yn cael ei blismona,” meddai Adam Price ar ei gyfri Twitter mewn ymateb i’r cyfweliad.

“Mae hyn yn newyddion ffug peryglus, ac mae angen i’r BBC ei dynnu yn ôl ar fyrder.”

Wrth ymateb, mae’r BBC yn dweud bod “ein gohebydd yn anghywir i nodi, yn ystod adroddiad byw, nad oedd teithio i Gymru yn cael ei blismona”.

“Fe wnaeth egluro’r sefyllfa mewn adroddiadau wedi hynny.”