Dydy neges Llywodraeth Cymru yn annog pobol i aros gartref yn sgil y coronafeirws ddim yn newid, meddai’r prif weinidog Mark Drakeford.

Fe ddaw wrth i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, baratoi i gyhoeddi’r cam nesaf yn Lloegr yn unig, lle mai’r disgwyl yw y bydd yn annog pobol i fod yn “wyliadwrus” ac nid i “aros gartref”.

Ond yn ôl Mark Drakeford, bydd y neges honno’n amherthnasol i Gymru.

“Y neges fydda i’n ei rhoi i bobol yng Nghymru yw, tra bod rhaid iddyn nhw fod yn wyliadwrus o berygl parhaus y coronafeirws, os nad ydych chi allan o’ch cartref am bwrpas angenrheidiol – ac mae hynny’n cynnwys ymarfer corff, fe all gynnwys siopa a rhaid iddo gynnwys mynd i’r gwaith i bobol sy’n gallu gwneud hynny’n ddiogel – aros gartref yw’r ffordd orau o hyd o warchod eich hun ac eraill,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Y lleia’ o gyswllt gewch chi â phobol eraill, fwya’ fyddwch chi’n lleihau’r risg i chi eich hun ac i eraill.

“Felly mae bod yn wyliadwrus yn bwysig ond dydy aros gartref ddim wedi mynd i ffwrdd.”

Mae Adam Price a Jeremy Miles ymhlith y gwleidyddion yng Nghymru sydd wedi ategu neges Mark Drakeford.

Y mesurau yng Nghymru

Daeth cadarnhad ddydd Gwener (Mai 8) fod y gwarchae’n parhau yng Nghymru am dair wythnos eto.

Ond bydd tri newid bach yn dod i rym yfory (dydd Llun, Mai 11).

  • Bydd pobol yn gallu gwneud ymarfer corff mwy nag unwaith y dydd
  • Bydd canolfannau garddio’n cael agor eto gan ymbellháu’n gymdeithasol
  • Bydd awdurdodau lleol yn ystyried sut i agor llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu

Yn ôl Mark Drakeford, all y gwarchae ddim “para am byth” yn sgil yr effaith ar iechyd pobol a’r economi.

Mae’n dweud y bydd ystyriaeth dros yr wythnosau nesaf i ba wasanaethau all agor eto i’r cyhoedd.

Fydd ysgolion ddim yn agor ddechrau mis Mehefin, ond fe fydd trafodaethau ag undebau athrawon, awdurdodau lleol a rhieni ynghylch y cam nesaf.