Mae 12 yn rhagor o bobol wedi marw yn sgil y coronafeirws yng Nghymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae 223 o achosion newydd hefyd wedi cael eu cofnodi.

Mae’n golygu bod 1,111 o bobol bellach wedi marw yn sgil y feirws, a bod cyfanswm o 11,344 wedi cael eu heintio.

Ond mae’r ffigurau go iawn yn debygol o fod yn uwch o lawer.

Mae 48,269 o brofion coronafeirws wedi’u cynnal yng Nghymru.