Mae’n ymddangos ein bod ni bellach wedi mynd heibio’r brig o ran niferoedd yr achosion newydd o’r coronafeirws, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 118 yn rhagor o bobl wedi profi’n bositif o’r haint, gan ddod â’r cyfanswm yng Nghymru i 11,121.

Mae bellach gyfanswm o 1,099 o bobl wedi marw ar ôl profi’n bositif i’r haint, sy’n gynnydd o naw ar ffigurau ddoe. Mae hyn yn cymharu â chynnydd o 26 ddoe ar ffigurau’r diwrnod cynt.

Cafodd 207 o farwolaethau newydd mewn ysbytai eu cyhoeddi yn Lloegr heddiw, sy’n cynnwys 47 a fu farw ddoe, 90 a fu farw echdoe, 23 a fu farw dydd Mercher, a’r gweddill ynghynt.

Mae bellach fis wedi mynd heibio ers y diwrnod y digwyddodd y nifer mwyaf o farwolaethau yn Lloegr – sef 884 ar 8 Ebrill.

Mae cyfanswm o 1,847 o gleifion coronafeirws wedi marw yn yr Alban – cynnydd o 36 ar ffigurau ddoe.

Dywedodd Dr Christopher Williams o Iechyd Cyhoeddus Cymru ei bod yn bwysig fod pobl yn parhau i gadw at gyfyngiadau Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn cefnogi’r addasiadau bach mewn rheoliadau sy’n cynnwys caniatáu i bobl ymarfer fwy nag unwaith y dydd,” meddai.

“Fodd bynnag, dylai pobl aros yn lleol. Mae hyn yn golygu y dylai ymarfer gychwyn a gorffen yn y cartref a pheidio â chynnwys pellter sylweddol o gartref.

“Rydym wrthi ar hyn o bryd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen pan fydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio o ddifrif.”