Fe fydd y ffermwyr llaeth sydd wedi cael eu taro waethaf gan argyfwng y coronafeirws yn cael rhywfaint o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd hyn ei gadarnhau mewn cyhoeddiad gan y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, heddiw.
O dan y cynllun, fe fydd gan ffermwyr llaeth sydd wedi colli mwy na 25% o’u hincwm ym mis Ebrill ac wedyn ym mis Mai hawl i hyd at £10,000, i’w digolledu am 70% o’r incwm a gollwyd.
Y nod yw ceisio sicrhau y gall y ffermwyr hyn ddal ati heb gael effaith ar les anifeiliaid a’r amgylchedd.
Mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn dilyn cyfres o fesurau eraill i helpu’r sector, sy’n cynnwys ymgyrch i gynyddu’r galw am laeth a llacio cyfreithiau cystadlu.
“Mae cau y sector gwasanaethau bwyd wedi cael effaith sylweddol ar ein sector llaeth a phrisiau y farchnad,” meddai’r Gweinidog Lesley Griffiths wrth gyhoeddi’r arian.
“Dwi felly’n falch o gadarnhau y bydd ffermwyr llaeth yng Nghymru yn gymwys am gymorth i helpu iddyn nhw addasu i’r amodau eithriadol yn y farchnad.
“Byddwn yn parhau i weithio’n galed â’r sector i helpu iddyn nhw fynd i’r afael â’r problemau y maen nhw’n eu hwynebu yn ystod y cyfnod anodd hwn.”