Mae pedwar o bobl wedi cael eu dirwyo ar ôl teithio o Dorset i Sir Benfro i edrych ar gwch.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys i’r car gael ei stopio ar yr A477 ger Llanteg wrth i gerbydau gael eu gwirio.

Roedd y pedwar yn y car wedi teithio tua 200 milltir ar eu ffordd i Aberdaugleddau i edrych ar gwch yr oedd gyda nhw diddordeb yn ei brynu.

Cafodd y pedwar hysbysiadau cosb am dorri rheoliadau Covid-19.

‘Mwyafrif yn cydymffurfio’

Meddai’r Arolygydd Andy Williams: “Er bod y mwyafrif o bobl yn cydymffurfio â’r rheoliadau sydd ar waith i sicrhau ein diogelwch, rydym yn dal i ddod ar draws lleiafrif bach nad ydyn nhw fel petaen nhw’n deall y rheoliadau.

“Mae’n hanfodol, cyhyd ag y bo’r rheoliadau’n dal ar waith, fod pawb yn cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd a sicrhau nad ydyn nhw’n teithio ond pan fo hynny’n gwbl angenrheidiol.

“Ein nod o hyd yw diogelu’n gweithwyr allweddol a’r cyhoedd yn gyffredinol.”