Mae tîm o wyddonwyr a thechnegwyr môr yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â’r archeolegydd morwrol a’r hanesydd o fri, Dr Innes McCartney o Brifysgol Bournemouth, wedi darganfod bad glanio a gollwyd ar y môr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ar ôl i dîm Bangor gasglu data sonar amlbelydr o safle llongddrylliad oddi ar Ynys Enlli, llwyddwyd yn ddiweddar i adnabod y llongddrylliad fel bad glanio o’r Ail Ryfel Byd a gollwyd, yn ôl pob sôn, oddi ar arfordir Ynys Manaw.

LCT 326

Roedd yr LCT 326 yn ‘Danc Bad Glanio’ Mk III a ddyluniwyd i gario cerbydau arfog i’r lan.

Adeiladwyd y bad ym Middlesbrough a chafodd ei lansio ym mis Ebrill 1942.

Diflannodd yr LCT 326 wrth groesi o’r Alban i Ddyfnaint ym mis Chwefror 1943 gyda chriw o bedwar ar ddeg. Cofrestrwyd achos y diflaniad ar y pryd gan y Morlys fel tywydd gwael neu wrthdrawiad â ffrwydryn oddi ar Ynys Manaw, ond mae’r ymchwil newydd hwn wedi lleoli’r llongddrylliad dros 100 milltir i ffwrdd oddi ar arfordir Ynys Enlli.

“Mae llongddrylliad yr LCT 326 yn un o dros 300 o safleoedd yn nyfroedd Cymru sydd wedi eu harolygu gan y [llong ymchwil] Tywysog Madog ac amcan y darn penodol hwn o ymchwil yw nodi cymaint â phosibl o longddrylliadau yn nyfroedd Cymru a thaflu goleuni ar eu gwahanol dreftadaeth forol,” meddai Dr Innes McCartney.

“Mae’r agwedd hon ar y project wedi arwain at lawer o ddarganfyddiadau newydd a chyffrous yn ymwneud â’r ddau ryfel byd, gyda’r LCT 326 yn ddim ond un enghraifft ohonynt.”

Ynni adnewyddol

Bydd y data sonar hefyd yn chwarae rhan ganolog o ran helpu i ddatblygu’r sector ynni adnewyddol ar y môr yng Nghymru trwy broject ymchwil SEACAMS2 dan arweiniad Prifysgol Bangor, sy’n archwilio’r effaith y mae llongddrylliadau yn ei chael ar amgylchedd y môr.

“Mae adnabod y llongddrylliadau hyn ar y môr a darganfod ers pa bryd y maent wedi suddo yn hanfodol er mwyn ein helpu i ddeall sut mae strwythurau’n rhyngweithio gyda phrosesau’r môr dros amser sydd o ddiddordeb mawr i’r diwydiant ynni adnewyddadwy môr,” meddai’r prif ymchwilydd, Dr Michael Roberts.

Yn aml, gall llongddrylliadau fel yr LCT 326 a’u ‘hôl traed’ ffisegol ac ecolegol cysylltiedig roi dealltwriaeth i ni o natur a phriodweddau gwely’r môr cyfagos heb orfod cynnal arolygon geo-wyddonol mwy cymhleth, heriol a drud.”