Mae dyn 27 oed o Gaerfyrddin wedi cael ei gyhuddo o gynhyrchu cyffur Dosbarth B ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i blanhigion canabis gwerth £100,000 mewn eiddo.

Fe ddaw yn dilyn cyrch ddydd Llun (Mai 4), pan gafodd dyn ei weld yn neidio o ardd i ardd a chael ei stopio wrth i ddyn arall ffoi.

Daeth yr heddlu o hyd i oddeutu 100 o blanhigion a chyfarpar i greu cyffuriau, ac fe gafod Elson Gjikolaj ei arestio yn y fan a’r lle.

Cafodd yr ail ddyn ei arestio’n fuan wedyn, ac mae wedi’i ryddhau dan ymchwiliad.

Mae trydydd dyn, sydd hefyd yn byw yn y tŷ, wedi’i arestio ar amheuaeth o fod â rhan mewn cyflenwi cyffuriau, ac fe ddaeth yr heddlu o hyd i sawl ffôn a chlorian yn ei gar.

Mae’r dyn hwnnw hefyd wedi’i ryddhau dan ymchwiliad.

Mae’r heddlu’n gofyn i landlordiaid fod yn wyliadwrus ac i gysylltu â nhw os ydyn nhw amau unrhyw droseddau ar eu tir.