Mae arolwg gan y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru’n dangos nad yw hanner o nyrsys Cymru yn gwybod sut i geisio am brawf coronafirws.

Yn ôl yr arolwg, a gafodd ei gynnal rhwng Ebrill 24 ac Ebrill 28 gyda 1,215 o ymatebion o Gymru, dim ond 50% o’r rhai a ymatebodd oedd yn gwybod sut i gael mynediad neu geisio am brawf yn y gweithle.

O’r 45.8% o’r rhai a ymatebodd sydd angen prawf ar hyn o bryd am y coronafeirws, neu sydd wedi bod angen prawf, roedd llai na’u hanner wedi cael cynnig prawf.

Roedd yna amrywiaeth hefyd yn yr amser roedd yn ei gymryd i’r canlyniadau ddod yn ôl, gyda dim ond 36% o’r rhai a atebodd o ogledd Cymru yn derbyn eu canlyniadau mewn dau ddiwrnod, o’i gymharu a 59% yng nghanol de Cymru.

“Mae’r darganfyddiadau yma’n codi braw ac yn dangos diffyg cyfathrebu, ar y gorau,” meddai Angela Burns, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Rydw innau hefyd yn galw, gyda’r Coleg Brenhinol Nyrsio, am gynnydd yn y nifer o weithwyr iechyd a chymdeithasol sydd yn cael cynnig prawf ar frys, yn ogystal â chynyddu ac ehangu’r bartneriaeth gydag undebau masnach a chyrff proffesiynol i helpu i gyfathrebu negeseuon allweddol ar brofi a darpariaeth ar lefel leol.

“Yn olaf, rhaid i Lywodraeth Cymru weithio i ddiddymu anghysondebau rhanbarthol wrth brofi ein nyrsys a gweithwyr gofal.”