Mae lluoedd arfog gwledydd Prydain wedi creu 92 uned symudol o fewn wythnos er mwyn cefnogi’r ymdrech i gynnal profion Covid-19 ar weithwyr rheng flaen, meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae’r unedau’n gallu cael eu symud ar fyrder ar draws y Deyrnas Unedig i gefnogi profion mewn cymunedau lle mae mwy o alw amdanyn nhw.
Mae timau milwrol wedi cael eu hanfon i Landudno yn Sir Conwy, Dunoon yn yr Alban yn ogystal â Doncaster, Plymouth, Blackpool, Caerwrangon a Hull
Fe fydd milwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn gallu cynnal profion ar weithwyr allweddol er mwyn i’r profion gael eu hanfon at labordai a’r canlyniadau’n cael eu dychwelyd o fewn 48 awr, meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae’r unedau symudol yn gallu cael eu codi mewn llai na 20 munud gan alluogi milwyr i gynnal profion ar gannoedd o bobl bob dydd.
Mae Llu Cymorth Covid y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi anfon 3,500 o staff y lluoedd arfog i gefnogi’r ymdrech yn erbyn y coronafeirws.