Mae Heddlu’r de wedi cyhoeddi enw dyn 46 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nglandŵr, Abertawe ddydd Gwener (Mai 1).
Roedd Dean Workman yn gyrru car Toyota C-HR glas pan fu mewn gwrthdrawiad a lori oedd wedi ei barcio yn Ffordd Castell-nedd yn ardal Glandŵr am 10.25yb.
Bu farw yn y fan a’r lle er gwaetha ymdrechion parafeddygon i’w achub.
Roedd Dean Workman yn dod o ardal Cymer ym Mhort Talbot ac yn dad i dri o blant, Scott, Tyrese ac Adam.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu mewn datganiad ei fod “wrth ei fodd” yn treulio amser gyda’i deulu a ffrindiau.
“Roedd yn byw bywyd i’r eithaf, yn ddoniol a byddai’n helpu unrhyw un. Fe fydd colled fawr ar ei ôl.”
Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y car Toyota yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad neu sydd â deunydd dashcam o’r digwyddiad.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.