Mae angen eglurder i’r sector addysg ynghylch pryd fydd ysgolion yn ail-agor, meddai llefarydd Addysg Plaid Cymru, Siân Gwenllian.

Roedd hi’n ymateb i gyfweliad Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ar raglen Andrew Marr  y BBC ddoe [dydd Sul, Mai 3], gan honni ei fod wedi “ychwanegu at y dryswch.”

Dywedodd Mark Drakeford bod angen rhoi tair wythnos o rybudd i ysgolion er mwyn iddyn nhw baratoi i ail-agor yn dilyn y coronafeirws ac felly, y gallan nhw agor yn raddol o fis Mehefin ymlaen.

Ond gan ei bod yn annhebygol y bydd pob ysgol yn gallu agor yn llawn ar y diwrnod cyntaf, dywedodd Mark Drakeford y bydd rhaid blaenoriaethu pwy fydd yn cael dychwelyd yn gyntaf.

Ymhlith y plant sy’n debygol o gael y flaenoriaeth, meddai, mae plant mewn ysgolion Cymraeg gan fod nifer helaeth o gefndiroedd di-Gymraeg, plant ag anghenion addysgol arbennig a phlant sy’n mynd o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd ym mis Medi.

“Angen eglurder”

“Mae angen eglurder – er mwyn y disgyblion, y rhieni ac i staff – ynglŷn â’r camau sydd yn rhaid eu cymryd a’r meini prawf sy’n rhaid eu cyflawni cyn i ysgolion allu ail-agor,” meddai’r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian.

“Siawns na all ysgolion agor nes ei bod hi’n saff a’n bod ni wedi delio gyda phrofion ac olrhain y feirws. Rydym yn bell i ffwrdd o’r senario yna ar hyn o bryd.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n sicrhau hyder y staff a’r disgyblion cyn bod unrhyw son o ddifrif am ail-agor ysgolion.”