Mae Delyth Jewell, Aelod Cynulliad Plaid Cymru, yn galw am brofi ac olrhain ar gyfer y coronafeirws ym mhob cartref gofal yng Nghymru.

Daw’r alwad ar ôl i Jeremy Miles, yr Aelod Cynulliad Llafur, amddiffyn polisi Llywodraeth Cymru o brofi dim ond mewn cartrefi gofal lle bu achosion neu amheuon fod achosion o’r feirws.

Mae Llywodraeth Lafur eisoes wedi amddiffyn y polisi hefyd, ar ôl gwneud tro pedol oddi wrth y polisi o beidio â chynnal unrhyw brofion.

Maen nhw bellach wedi penderfynu cynnal profion mewn cartrefi lle mae mwy na 50 o breswyliaid lle nad oes ganddyn nhw symptomau.

Serch hynny, dydy’r polisi “ddim yn mynd yn ddigon pell”, yn ôl Delyth Jewell.

‘Rhesymeg ddim yn glir’

“Mae’r Llywodraeth Lafur wedi cymryd cam i’r cyfeiriad cywir, ond dydy’r rhesymeg y tu ôl i gyflwyno terfyn o 50 o breswyliaid er mwyn bod yn gymwys ar gyfer profion mewn cartrefi lle nad oes gan breswyliaid symptomau ddim yn glir,” meddai Delyth Jewell.

“Mae’r diffyg elgurder ynghylch y polisi hwn yn ansefydlogi preswyliaid, teuluoedd preswyliaid a’r staff mewn cartrefi gofal llai.

“Fe fydd unrhyw un sy’n gweithio neu’n byw mewn cartref gofal â 49 o breswyliaid neu lai mewn fwy o berygl o gael Covid-19 o dan y polisi hwn.

“Mae ardaloedd gwledig yn dueddol o fod â chartrefi gofal llai oherwydd dwysedd y boblogaeth, felly mae’r polisi hwn mewn gwirioned yn cyflwyno loteri cod post i’r drefn o brofi ac mae hynny’n annheg.

“Dydy’r polisi hwn ddim yn mynd yn ddigon pell.

“Os yw capasiti profi’n broblem, dylai’r Llywodraeth fod yn onest a datgan hynny.

“Os oes tystiolaeth i gefnogi’r penderfyniad hwn – fel mae gweinidogion Llafur yn honni o hyd – rhaid ei chyhoeddi fel bod modd craffu arni.

“Gallai’r broses honno gymryd peth amser, felly mae Plaid Cymru’n galw am brofi unffurf mewn cartrefi gofal yn y cyfamser fel bod modd i ni fabwysiadu dull rhagofalus o brofi, olrhain a lleihau niwed y feirws yma; nid yn unig i breswyliaid a staff bregus ond i’r gymuned ehangach hefyd.”

‘Embaras’

“Mae’r Llywodraeth Lafur eisoes wedi’i phrofi’n anghywir ar brofi mewn cartrefi gofal unwaith ac wedi gorfod gwneud tro pedol.

“Tra gall fod yn destun embaras i Lywodraeth Lafur newid eu polisi ar brofi mewn cartrefi gofal unwaith yn rhagor, rhaid mai’r flaenoriaeth yw bywydau pobol a chadw rheolaeth ar y feirws.”