Profi ac olrhain “mewn modd dramatig” yw’r unig ffordd o adfer yr economi yng Nghymru, yn ôl David Buttress, perchennog y cwmni dosbarthu bwyd JustEat.

Daw ei sylwadau ar drothwy sgwrs fideo gydag Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, heddiw (dydd Sul, Mai 3).

Mae’n dweud bod angen i bobol allu dychwelyd i’r gwaith cyn gynted â phosib, ond fod angen i gwmnïau gael mynediad i gyfarpar diogelwch a hylendid a gweithredu polisi o ymbellháu cymdeithasol yn hytrach na llacio unrhyw gyfyngiadau.

Dywed y bydd adfer hyder cwsmeriaid yn “gwbl hanfodol”, ac mae’n galw am “arweiniad clir” gan lywodraethau Cymru a San Steffan cyn bod cyfyngiadau’n cael eu llacio.

Mae’n rhybuddio hefyd am y perygl o ail don o achosion o’r feirws os nad yw’r sefyllfa’n cael ei rheoli’n ofalus, ac y byddai hynny’n “fwy niweidiol fyth yn economaidd ac yn gymdeithasol”.

Mae Adam Price eisoes yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r cynllun profi, olrhain ac ynysu pe bai’r cyfyngiadau’n cael eu llacio, gan alw hefyd am “brofi torfol ledled Cymru” fel yr “unig ffordd o ddod allan o’r gwarchae’n ddiogel”.

Yn ôl David Buttress, mae busnesau a chwsmeriaid Cymru’n “wynebu realiti newydd”, gan ddweud bod diffyg buddsoddi yn y gorffennol wedi arwain at adfer yr economi’n arafach nag y dylai ddigwydd.

‘Profi cynhwysfawr a rheolaidd’

“Mae angen i ni i gyd fod yn ôl yn y gwaith cyn gynted â phosib ond er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid cynyddu profi cynhwysfawr a rheolaidd mewn modd dramatig,” meddai David Buttress.

“Bydd angen hefyd i fusnesau allu cael mynediad i’r holl gyfarpar diogelwch a hylendid angenrheidiol, gyda rheolau a rheoliadau ymbellháu cymdeithasol clir yn eu lle.

“Fe fydd hyder cwsmeriaid yn gwbl allweddol, mae angen i ni ailddechrau ein bywydau beunyddiol a dim ond o gael hyder llwyr ein bod ni mor ddiogel â phosib y gallwn ni wneud hyn.

“Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen cyngor arbenigol clir ar sail ffeithiau am y peryglon a sut i’w lleihau nhw, ynghyd ag arweiniad clir gan lywodraethau Cymru a San Steffan.

“Os nad yw’r manylion uchod yn eu lle cyn codi’r gwarchae, yna rydym yn wynebu’r perygl o ddychwelyd i warchae arall a allai fod yn fwy niweidiol fyth yn economaidd ac yn gymdeithasol.

“Mae’r coronafeirws wedi ein gorfodi ni i gyd – yn bobol fusnes, yn llywodraethau ac yn gwsmeriaid – i wynebu realiti newydd.

“Rydym wedi tanfuddsoddi mewn meysydd cymdeithasol fel iechyd, sydd nawr yn cael effaith enfawr ar gyflymdra adfer yr economi a’n gallu i adfer yn gyflym.

“Mae’n bryd cywiro hynny, ac yn gyflym hefyd.

“Ar nodyn ehangach, dros y degawdau diwethaf, fel cymdeithas fe ddaethom i ganolbwyntio mwy ar enwogrwydd tros wyddoniaeth a sylwedd.

“Mae angen i ni ofyn i ni ein hunain, pwy ydyn ni wir yn eu gwerthfawrogi, buddsoddi ynddyn nhw a’u haddysgu yn y gymdeithas? Y seleb diweddara’ neu wyddonwyr sy’n gwneud camau meddygol ymlaen.”

Adam Price yn ategu

Mae Adam Price wedi ategu sylwadau David Buttress, gan alw hefyd am brofi ar raddfa ehangach.

“Yr unig ffordd allwn ni fyth adael y gwarchae’n ddiogel yw trwy gael rhaglen brofi torfol ledled Cymru i brofi, olrhain ac ynysu,” meddai.

“Mae’r prif weinidog wedi dweud bod Iechyd Cyhoeddus Cymru’n ‘gweithio ar gynllun’ i arsylwi’r gymdeithas ond bythefnos yn ddiweddarach, dydyn ni ddim eto wedi ei weld e.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ar frys eu cynllun ar gyfer cynyddu’r capasiti i brofi, olrhain ac ynysu.

“Rhowch hyder i’r cyhoedd mai dim ond pan fydd yn ddiogel y bydd y gwarchae’n cael ei ddileu – gyda rhaglen o brofi, olrhain ac ynysu cymunedol eang yn ei lle.”