Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu tro pedol Llywodraeth Cymru ar gynnal profion coronafeirws mewn cartrefi gofal.
Daw’r ymateb ddiwrnod ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai profion yn cael eu cynnal mewn cartrefi lle mae achosion o’r feirws wedi’u cadarnhau neu eu hamau.
Roedd y llywodraeth wedi bod dan bwysau ar ôl dweud nad oedd modd profi mewn cartrefi gofal oherwydd prinder profion.
Ond ddoe (dydd Gwener, Mai 1), cafodd cyfres o gamau eu cyhoeddi, sef:
- hwyluso’r broses o gynnal profion drwy gyflwyno wyth o unedau profi symudol o Fai 3 a chitiau profi cartref i gartrefi gofal.
- cynnal y mwyafrif o brofion yn yr ardaloedd lle mae’r nifer fwyaf o achosion, gyda’r unedau symudol yn cael eu hanfon i gartrefi gofal yr ardal, gan gynnal rhagor o brofion wythnos yn ddiweddarach.
- bydd profion ar gael yn y cartrefi gofal mwyaf – y rhai â mwy na 50 o wlâu – lle mae’r perygl mwyaf o achosion.
- cefnogaeth amgylcheddol a hylendid wrth gynnal profion mewn ardaloedd lle mae’r nifer fwyaf o achosion.
- Bydd mesurau glanhau, hylifau golchi dwylo a mesurau rheoli haint yn cael eu cynyddu ochr yn ochr â chynnal mwy o brofion.
Mae Janet Finch-Saunders, llefarydd gofal cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, yn croesawu’r cyhoeddiad, ar ôl mynegi ei siom ddiwrnodau’n ôl fod Llywodraeth Cymru’n gwrthod ehangu profion coronafeirws i holl staff a chleifion cartrefi gofal.
‘Trueni na fuasai wedi digwydd ynghynt’
“Ddeuddydd yn ôl, dywedodd y prif weinidog nad oedd e’n gweld gwerth mewn profi pawb mewn cartrefi gofal,” meddai Janet Finch-Saunders.
“Mae’r tro pedol hwn gan Lywodraeth Cymru i’w groesawu’n fawr, nid yn unig gan breswyliaid a staff cartrefi gofal ond gan eu teuluoedd a’u hanwyliaid hefyd.
“Gall profi helpu i leihau ymlediad y feirws marwol ac ofnadwy hwn sy’n cael effaith ddinistriol ar y rhai mwyaf bregus yn y gymdeithas.
“Mae’n drueni na fuasai capasiti ychwanegol rhaglen brofi Covid-19 Cymru wedi gallu cael ei ddefnyddio ynghynt.
“Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth Prydain eu bod nhw’n cynnal mwy na 100,000 o brofion bob dydd.
“Yng Nghymru, mae gennym y capasiti i wneud ychydig yn fwy na 2,000 o brofion bob dydd ond rydyn ni’n gwneud hanner hynny.
“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i barhau â’u tro pedol ac ymestyn y profion i holl breswyliaid a staff cartrefi gofal.”